Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Newyddion>Arbenigwyr diogelwch bwyd yn ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd

Arbenigwyr diogelwch bwyd yn ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd

UKAFP conference speakers

Mae bron i 150 o weithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd a diod wedi dod at ei gilydd yng Nghaerdydd i drafod tirwedd diogelwch bwyd y DU sy'n newid a'i heffaith ar weithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru.

Cynhaliwyd 19eg Cynhadledd flynyddol Cymdeithas Diogelu Bwyd y DU yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd ddydd Mercher 16eg Tachwedd 2022 ac fe'i trefnwyd gan Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Cafodd y sawl a fynychodd glywed gan amrywiaeth o arbenigwyr diogelwch bwyd proffil uchel gan gynnwys Nathan Barnhouse a'r Athro Robin May o'r Asiantaeth Safonau Bwyd, a fu'n sôn am rôl eu sefydliad mewn system fwyd sy'n newid. Ymhlith y siaradwyr eraill yr oedd yr Athro John Holah o Kersia UK, a rannodd gipolwg ar ddylanwad cynyddol dylunio hylan mewn diogelwch bwyd, a Deb Smith, Arbenigwr Hylendid Byd-eang o Vikan, a rannodd yr heriau a'r atebion diweddaraf o ran rheoli alergenau.

Meddai'r Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE:

"Mae tirwedd diogelwch bwyd a diod y DU wedi gweld llawer o newidiadau ar hyd y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys effaith ymadawiad y DU o'r UE yn 2020, pandemig COVID-19, cynnydd yng nghyflymder technolegau newydd sydd wedi newid y ffordd y mae pobl yn prynu bwyd, cynnydd yn yr ymwybyddiaeth o effaith cynhyrchu bwyd ar ein planed, a phryderon cynyddol ynghylch fforddiadwyedd bwyd a'i gynnwys maethol.

"Mae pob un o'r ffactorau hyn yn effeithio ar fodelau gweithredu, cadwyni cyflenwi a'r gweithlu. Fel gweithwyr diogelwch bwyd proffesiynol, mae'n bwysig i ni ddod at ein gilydd i drafod sut y gallwn ymateb i dirwedd diogelwch bwyd sy'n esblygu'n gyson a chynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy, iach a diogel i ddefnyddwyr."

Professor David Lloyd

Rhoddodd Richa Bedi-Navik, yr Uwch Reolwr Safonau Byd-eang ar gyfer BRCGS, y safon fyd-eang fwyaf ar gyfer diogelwch bwyd a ddefnyddir mewn mwy na 130 o wledydd, ddiweddariad i'r mynychwyr ar y newidiadau diweddar a oedd yn rhan o'i Rifyn 9 a gafodd ei lansio'n ddiweddar.

Dywedodd Richa Bedi-Navik, BRCGS:

"Un o themâu craidd rhifyn newydd Safon Fyd-eang BRCGS yw pwysigrwydd datblygu diwylliant diogelwch bwyd cadarnhaol a'i rôl wrth sicrhau bod systemau rheoli diogelwch bwyd yn cael eu gweithredu'n effeithiol, sydd yn eu tro'n helpu i atal digwyddiadau diogelwch cynnyrch.

"Roedd cynhadledd UKAFP eleni'n gyfle pwysig i weithwyr diogelwch bwyd proffesiynol ddod at ei gilydd i drafod sut y gallwn sicrhau bod datblygu diwylliant diogelwch bwyd cryf yn brif ffocws i bob gwneuthurwr bwyd yng Nghymru."

Bydd y cyflwyniadau o gynhadledd eleni ar gael am ddim yn fuan ar:
www.metcaerdydd.ac.uk/health/zero2five/UKAFP/Pages/default.aspx