Ffurfeln gais ac amserlen
METRIDER 2019/20
ARBEDWCH 1/3 AR BRIS TOCYN BLYNYDDOL
Os ydych chi'n 16 - 21 oed, mae gennych hawl i wneud arbediad gwych ar wasanaeth bws MetRider y Brifysgol.
Mae'r Brifysgol wedi partneru â Bws Caerdydd a Llywodraeth Cymru, ac mae bellach yn gallu cynnig y gostyngiad fyngherdynteithio (wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru), oddi ar bris safonol tocyn MetRider!
Am £180*, cewch ddefnyddio holl wasanaethau MetRider yn ddiderfyn trwy gydol y flwyddyn academaidd lawn (7 diwrnod yr wythnos).
Nid dyna'r cyfan, bydd eich tocyn hefyd yn caniatáu i chi ddefnyddio holl rwydwaith gwasanaeth Bws Caerdydd yn ystod yr un cyfnod!
Mae hynny'n cyfateb i £4 yr wythnos (neu 57c y dydd) ar gyfer teithio diderfyn o amgylch y Ddinas.
Bydd y tocyn ar gael i'w brynu o 19 Awst 2019. Cliciwch yma neu'r botwm Gwneud Cais Nawr.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn wirioneddol falch o fod yn cefnogi'r cynllun fyngherdynteithio gan y bydd o fudd i filoedd o'n myfyrwyr ac yn helpu i gefnogi ein nod o leihau'r ddibyniaeth ar geir i deithio i'r campws.
* Mae tocyn blynyddol MetRider yn £270 y flwyddyn cyn i'r gostyngiad fyngherdynteithio gael ei gymhwyso
Cewch eich hysbysu pan fydd eich tocyn yn barod i'w gasglu. Gellir casglu tocynnau Met Rider o Stiwdio Argraffu Cyncoed neu Stiwdio Argraffu Llandaf.
Mae amserlenni Met Rider ar gael yma:
https://www.cardiffbus.com/will-you-be-heading-cardiff-met-autumn
Os oes gennych unrhyw gwestiynau,
gcysylltwch â ni.
Gwneud Cais Nawr
Map Llwybrau
Cliciwch y ddelwedd isod i weld fersiwn fwy neu i gael llwybrau, amseroedd a gwybodaeth Bws Caerdydd ewch i Met Rider Caerdydd PDF
Prifddinas wych
Mae Caerdydd wedi paratoi’n dda ar gyfer ei holl fyfyrwyr ac ar gyfer sicrhau eu bod yr un mor hoff o’r brifddinas â’r bobl leol.
Darganfyddwch sut beth yw
SBywyd Myfyrwyr!
Mae Caerdydd yn brifddinas wych gyda chymaint fanteision - gan gynnwys pa mor agos yw’r maestrefi, yr atyniadau ymwelwyr, Bae Caerdydd, arfordir y Fro a lleoliadau glan môr a bywyd nos i'w gilydd - a pha mor hawdd yw teithio o gwmpas. Mae llwybrau Bws Caerdydd yn golygu y gallwch chi weld y rhain i gyd mewn un diwrnod - neu weithio'ch ffordd o gwmpas yn fwy hamddenol tra byddwch chi yma. Mae eich tocyn Met Rider yn agor hyn i gyd i chi.
Weithiau gall parcio fod yn anodd yng Nghaerdydd, sy'n golygu bod y Met Rider yn ffordd wych o deithio’n uniongyrchol o’r neuaddau i'r campws ac ardaloedd preswyl myfyrwyr yn ogystal ag o gwmpas y dref i siopa neu am noson allan.